Ymgyrch Gwastraff Iawn, Lle Iawn yn lansio Rhaglen Llysgenhadon ac yn sicrhau cefnogaeth Suez, Veolia, Ffederasiwn Busnesau Bach, Cory Environmental, Augean PLC, Redrow, Willmott Dixon a’r Gloucestershire Joint Waste Team fel Llysgenhadon yr Ymgyrch

Heddiw mae Gwastraff Iawn, Lle Iawn, sef yr ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth Dyletswydd Gofal ac yn darparu gwybodaeth ymarferol i gynorthwyo busnesau o ystod eang o sectorau i gydymffurfio, wedi lansio ei Rhaglen Llysgenhadon. Mae Suez, Veolia, Ffederasiwn Busnesau Bach, Cory Environmental, Augean PLC, Redrow, Willmott Dixon a’r Gloucestershire Joint Waste Team[1] eisoes wedi ymrwymo i fod yn Llysgenhadon i’r Ymgyrch a byddant yn codi ymwybyddiaeth o’r Ddyletswydd Gofal ymhlith eu 5,000 a mwy o gyflenwyr. Drwy wneud hynny maent yn hyrwyddo’r achos a gallant ddefnyddio deunyddiau’r ymgyrch er eu lles eu hunain, gan gynnwys pecynnau ymchwil ac addysg wedi’u teilwra.

Dyma feini prawf cychwynnol bod yn Llysgennad:

Tystiolaeth fod y corff yn coleddu egwyddorion Gwastraff Iawn, Lle Iawn, a bod ganddo raglen a pholisi mewnol ar reoli gwastraff.

Ymrwymiad i hyrwyddo’r arferion gorau ym maes rheoli gwastraff.

Ymrwymiad i ymwneud yn weithgar â Gwastraff Iawn, Lle Iawn i hyrwyddo’r ymgyrch.

Yn ôl Sam Corp, Pennaeth Rheoleiddio y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Mae nifer y cyrff sy’n ymwneud yn weithgar ag ymgyrch Gwastraff Iawn, Lle Iawn, gan gynrychioli ystod eang o sectorau, yn dangos mater mor ddifrifol yw cydymffurfio â’r Ddyletswydd Gofal. Felly, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Suez, Veolia, Ffederasiwn Busnesau Bach, Cory Environmental, Augean PLC, Redrow, Willmott Dixon a’r Gloucestershire Joint Waste Team eisoes yn Llysgenhadon ar gyfer yr Ymgyrch ac edrychaf ymlaen at weld llawer mwy o gyrff yn ymuno â’r rhaglen yn y dyfodol agos.”

Mae’r ymgyrch Gwastraff Iawn, Lle Iawn wedi’i hanelu’n bennaf, ond nid yn unig, at fusnesau bach a chanolig eu maint, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth Dyletswydd Gofal, ac mae’n darparu gwybodaeth ymarferol i gynorthwyo cwmnïau, partneriaethau, busnesau teuluol ac unig fasnachwyr o ystod eang o sectorau i gydymffurfio ac i gynorthwyo i gadw gwastraff o ddwylo troseddwyr gwastraff. Mae’r wefan hon yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i reoli gwastraff yn ddiogel ac yn effeithlon. Anogir y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â Rhaglen Llysgenhadon Gwastraff Iawn, Lle Iawn i gysylltu trwy gyfrwng info@rightwasterightplace.com.