BYDD POPETH Y MAE ARNOCH ANGEN EI WYBOD YMA
BYDD POPETH Y MAE ARNOCH ANGEN EI WYBOD YMA
Bu hyn yn wir ers i Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd ddod i rym yn 1990 [1], gan fod y ddeddf honno yn ei gwneud hi’n ofynnol i sefydliadau neu fusnesau gymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu’n iawn. Felly mae gennych Ddyletswydd Gofal am eich gwastraff, a gall y ddyletswydd honno gael ei gorfodi’n gyfreithiol!
Mae’n anghyfreithlon osgoi’r mater, a gallai fod yn ddrud hefyd, gan y gallai methu â chydymffurfio â’r gyfraith arwain at ddirwyon. [2]
Ar nodyn mwy calonogol, bydd y rhai sy’n cydymffurfio yn canfod eu bod yn fwy effeithlon a llwyddiannus yn sgil meddwl yn fwy trefnus am y gwastraff y maent yn ei gynhyrchu (gweler yr astudiaethau achos).
Mae eich Dyletswydd Gofal yn cychwyn o’r eiliad pan fyddwch yn cynhyrchu’r gwastraff a gall hefyd barhau y tu hwnt i’r contractiwr gwastraff â’r awdurdod priodol y byddwch yn ei ddefnyddio i ymdrin â’r gwastraff. Bydd angen i chi eich bodloni eich hun eich bod nid yn unig wedi rheoli’r gwastraff yr ydych yn ei gynhyrchu yn gywir ar eich safle, ond hefyd bod gan y person y’i rhoddir iddo nesaf ganiatâd i ymdrin ag ef ac y bydd yn cael ei drin yn gywir.
Mae’r Cod Ymarfer Dyletswydd Gofal ar gael yma. Ond mae yna ffordd hyd yn oed yn gynt o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gydymffurfio! Lawrlwythwch ein Cyflwyniad Syml, sy’n rhoi rhestr fesul cam o’r pethau i’w hystyried, a chadwch gopi ohono.
[1] Yng Ngogledd Iwerddon: Waste and Contaminated Land (Northern Ireland) Order 1997
[2] Mae dirwyon diderfyn ar gael i lysoedd ynadon a llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban ac Iwerddon, uchafswm y dirwyon statudol mewn llysoedd ynadon yw £5,000.
BYDD POPETH Y MAE ARNOCH ANGEN EI WYBOD YMA
BYDD POPETH Y MAE ARNOCH ANGEN EI WYBOD YMA
Mae’r ymgyrch yn cael ei rheoli gan y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol (ESA), Cyfoeth Naturiol Cymru, a’i noddi gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff ac Ymddiriedolaeth Addysg y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol.
Cefnogir gan: SUEZ , Ffederasiwn Busnesau Bach, Veolia, Travis Perkins, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Build UK, URoC, a LARAC.
[1] Mae dirwyon diderfyn ar gael i lysoedd ynadon a llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban ac Iwerddon, uchafswm y dirwyon statudol mewn llysoedd ynadon yw £5,000.