Baled Plastic.jpg
Baled Plastic.jpg
Baled Plastic.jpg

Beth sydd angen i mi ei wneud?


 

FE ALLWN NI EICH HELPU CHI I ROI EICH GWASTRAFF YN Y LLE IAWN

 

SCROLL DOWN

Beth sydd angen i mi ei wneud?


 

FE ALLWN NI EICH HELPU CHI I ROI EICH GWASTRAFF YN Y LLE IAWN

 

Drwy ddefnyddio’r Cyflwyniad Syml i’r Ddyletswydd Gofal a gwybodaeth arall a geir ar y wefan hon gallwch wirio a ydych eisoes yn rheoli eich gwastraff mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ac, os nad ydych, pa newidiadau y mae angen ichi eu gwneud er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud hynny yn y dyfodol. 

Lle da i gychwyn yw pennu a yw’r gwastraff yr ydych yn ei gynhyrchu yn beryglus neu ddim yn beryglus, gan fod angen ymdrin â’r ddau gategori yn wahanol. 

hazard.jpg

Ni ddylid fyth eu cymysgu.  


Dylai’r cyflwyniad syml i’r Ddyletswydd Gofal am eich Gwastraff a’r cardiau Angen Gwybod eich cynorthwyo i benderfynu beth mae angen ichi ei wneud â’ch gwastraff. 


Gwastraff Peryglus

Mae angen i gwmni gwastraff arbenigol sydd â thrwydded i wneud hynny ymdrin ag unrhyw wastraff peryglus. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod hyn yn digwydd. 

Wedi Cofrestru i Gludo Gwastraff?

Gallwch wirio a oes gan gwmni drwydded i ymdrin â’r math o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu drwy edrych ar y cofrestri ar-lein canlynol ar gyfer Cymru, LloegrYr Alban, a Gogledd Iwerddon.  Cofiwch ei bod yn bosibl y bydd arnoch angen mwy nag un cludwr gwastraff arbenigol gan ddibynnu ar ba fath o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu a pha drwyddedau derbyn gwastraff sydd ganddynt gan y rheoleiddwyr amgylcheddol. 

 
infographic.jpg

Gwastraff – pwy sy’n gyfrifol am beth?

Yn ei hanfod, ceir tair dolen yn y gadwyn o ran pwy sy’n gyfrifol am wastraff: 

1
Cynhyrchwr y gwastraff

Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau neu fusnesau yn rhan o’r categori hwn gan eu bod yn cynhyrchu gwastraff o ganlyniad i’w gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Dylid gwneud pob ymdrech i ailddefnyddio neu ailgylchu deunyddiau nad oes mo’u hangen mwyach, ond os nad oes modd gwneud hynny bydd angen adfer neu waredu’r gwastraff yn y ffordd gywir. 

2
Cludwr y gwastraff 

Ceir nifer fawr o gludwyr gwastraff yn y DU sy’n gyfrifol am gasglu gwastraff gan y cynhyrchwr a’i gludo i safle lle gellir ei adfer neu ei waredu.

Gall yr un cwmni fod yn gyfrifol am gludo’r gwastraff a’i dderbyn. 

3
Derbyniwr y gwastraff

Safleoedd yw’r rhain sy’n cael eu trwyddedu neu eu caniatáu gan reoleiddwyr amgylcheddol megis Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban neu Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon ac sy’n derbyn y gwastraff gan y cludwr a naill ai’n ailddefnyddio, ailgylchu neu waredu’r gwastraff yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau. 

–– Mae angen i bob dolen yn y gadwyn ei sicrhau ei hun, ar sail tystiolaeth, bod gan y sawl y maent wedi rhoi eu gwastraff iddo drwydded neu ganiatâd ar gyfer y math o wastraff a gynhyrchwyd.

–– Dylid gwirio ymhellach hefyd os ceir unrhyw bryderon nad yw’r gwastraff yn cael ei drin yn unol â’r ddyletswydd gofal.

Gollwng yn anghyfreithlon

warning.jpg

 Os ydych yn amau bod rhywun yn gollwng, yn trin neu’n gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon, ni ddylech roi eich gwastraff iddynt na chymryd gwastraff ganddynt. Dylech roi gwybod am amheuon ynghylch gweithgarwch anghyfreithlon i’ch rheoleiddiwr amgylcheddol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.   

Baled Plastic.jpg

ASTUDIAETHAU ACHOS


 

FE ALLWN NI EICH HELPU CHI I ROI EICH GWASTRAFF YN Y LLE IAWN

 

ASTUDIAETHAU ACHOS


 

FE ALLWN NI EICH HELPU CHI I ROI EICH GWASTRAFF YN Y LLE IAWN

 

Mae nifer o fusnesau bach yn credu mai rhagor o fiwrocratiaeth yw rheoleiddio gwastraff.  Ond fe all yr hyn y byddwch chi'n ei wneud gael effeithiau difrifol nid yn unig ar eich busnes ond ar y gymuned ehangach hefyd. 

Gall peidio â delio â’ch gwastraff busnes yn iawn arwain at anafiadau, at fwy o dipio anghyfreithlon ac at beryglu eich bywoliaeth.  Yn fan hyn, fe allwch ddysgu o enghreifftiau eraill.  Cliciwch ar yr astudiaethau achos isod i weld sut y gall eich Dyletswydd Gofal effeithio ar eich busnes chi.  Mae’r achosion yn dangos y camau gwag i’w hosgoi ac yn rhoi enghreifftiau o arferion da.