Ymchwil newydd yn dangos bod busnesau ledled y wlad yn torri deddfau gwastraff oherwydd diffyg ymwybyddiaeth enbyd 

  • Dywed bron i hanner y 1,000 o fusnesau a holwyd nad ydynt yn gwybod ble mae eu holl wastraff yn mynd
  • Bron i filiwn o achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr mewn blwyddyn, gan gostio bron i £70 miliwn i awdurdodau lleol.
  • Yr ymgyrch ‘Gwastraff Iawn, Lle Iawn’ yn cael ei lansio yn genedlaethol er mwyn helpu busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau ac i godi ymwybyddiaeth 

Mae busnesau ledled y wlad yn cael trafferth gwneud y peth iawn â’u gwastraff, gyda bron eu hanner yn cyfaddef i arferion sy’n golygu nad ydynt yn cydymffurfio’n llawn â’r ddeddfwriaeth. Dengys arolwg newydd, er bod 97% o fusnesau yn meddwl eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth ‘Dyletswydd Gofal’ gwastraff, bod llawer ohonynt yn eu hamlygu eu hunain i ddirwyon diderfyn, cael eu herlyn a chael eu cau, o bosibl, yn sgil eu diffyg ymwybyddiaeth.

Canfu’r arolwg cenedlaethol gan Gwastraff Iawn, Lle Iawn – oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar fusnesau bach a chanolig eu maint – nad oedd 48% o fusnesau yn gwybod i ble mae’r oll o’u gwastraff yn mynd wrth iddo adael y safle. Roedd dros draean ohonynt yn cyfaddef hefyd nad oeddent yn sicr a oeddent yn cwblhau nac yn cadw Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff hanfodol – sy’n ofyniad allweddol. At hynny, nid oedd llawer ohonynt yn sicr sut i ddosbarthu’r holl ddeunyddiau gwastraff yr oeddent yn eu trin yn gywir.

Drwy beidio â chydymffurfio, mae busnesau yn creu’r perygl y bydd gwastraff yn disgyn i ddwylo troseddwyr, gan arwain at beryglon amgylcheddol, iechyd a diogelwch yn sgil tipio a gollwng anghyfreithlon. Cafodd cyfanswm o 962,513 o achosion o dipio anghyfreithlon eu cofnodi ledled y wlad yn 2014-15, gan gostio £69 miliwn i awdurdodau lleol o ran ymchwiliadau a chlirio. Gall rhoi’r gwastraff anghywir yn y lle anghywir hefyd achosi problemau drwy lygru deunydd sydd i fod i fynd i’w ailgylchu, a gallai hynny gostio arian i fusnesau.

I ymateb i hyn, lansiwyd ymgyrch Gwastraff Iawn, Lle Iawn er mwyn helpu busnesau i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Canolbwynt yr ymgyrch yw gwefan ryngweithiol www[NP3] [NP4] .rightwasterightplace.com ac mae’r ymgyrch, sy’n cael ei rhedeg gan y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol, yn cael ei chefnogi gan Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i reoli gwastraff yn ddiogel ac yn effeithlon.

Yn ôl Sam Corp, Pennaeth Rheoleiddio y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Mae’r canlyniadau yma yn brawf o’r hyn yr oeddem yn ei amau, sef bod busnesau bach eisiau gwneud y peth iawn ond nad yw llawer ohonynt, yn y pen draw, yn cydymffurfio â’r gyfraith. Dywedodd bron eu hanner wrthym nad ydynt yn sicr ble mae’r gwastraff yn mynd pan fydd yn eu gadael. Pan fyddwch yn brysur, gall ymdrin â’ch gwastraff fod yn isel ar y rhestr o flaenoriaethau, ond mae angen i bobl fusnes sylweddoli eu bod mewn perygl o gael cosbau sylweddol os nad ydynt yn cydymffurfio.

“Nid yw troseddau gwastraff heb eu dioddefwyr. Mae ymdrin â’r canlyniadau yn costio miliynau o bunnoedd i drethdalwyr bob blwyddyn a gall troseddwyr gwastraff niweidio’r amgylchedd a pheryglu cymunedau lleol. Drwy beidio â chydymffurfio, gallai busnesau lleol fod yn hwyluso troseddau o’r fath drwy beidio â sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu’n ddiogel.

“Mae ymgyrch ‘Gwastraff Iawn, Lle Iawn’ yma i helpu. Mae perchnogion busnesau bach yn aml yn gweithio i’r eithaf, yn gwneud sawl gorchwyl wahanol ar yr un pryd a dan bwysau. Mae ein hymgyrch yn darparu deunyddiau gwerthfawr, hawdd i’w deall a fydd yn eu cynorthwyo i gyflwyno arferion da i’w diogelu rhag torri’r gyfraith.”

Mae’r ymgyrch eisoes wedi denu cefnogaeth casgliad o ‘lysgenhadon’ swyddogol ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau megis Ffederasiwn Busnesau Bach, cwmnïau rheoli gwastraff, adeiladwyr tai, cwmnïau adeiladu, ac elusennau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae ymchwil ddiweddaraf yr ymgyrch yn seiliedig ar arolwg o dros 1,000 o fusnesau ledled y DU. Er ei bod yn tynnu sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth ynghylch deddfwriaeth gwastraff ‘Dyletswydd Gofal’, roedd hefyd yn dangos bod llawer o fusnesau wedi cael eu hysgogi a’u bod yn cymryd camau ar hyn o bryd i wneud y peth iawn.

Ystyriaethau amgylcheddol ac iechyd oedd y prif ysgogwyr i fusnesau gydymffurfio, a gofynion cyfreithiol yn eu dilyn yn agos. Dywedodd cyfanswm o 89% hefyd eu bod yn cymryd camau i storio eu gwastraff yn ddiogel, tra bod 83% yn gwneud rhywfaint o ymdrech i wahanu’r gwahanol fathau o wastraff sy’n cael ei greu cyn ei waredu neu ei ailgylchu.

Meddai Steve Lee, prif weithredwr y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff:

 “Roeddem yn falch o weld bod mwyafrif y busnesau y bu inni siarad â hwy yn llawn ysgogiad i wneud y peth iawn a bod ganddynt arferion ar waith i rannu’r gwahanol fathau o wastraff megis gwastraff electronig, gwastraff peryglus, plastig a metel. 

“Disgwylir i berchnogion busnesau bach a chanolig fod yn arbenigwyr ar bopeth – ac nid yw cyfraith gwastraff yn eithriad. Mae ein hymgyrch yn cynnig help llaw i’r holl berchnogion cwmnïau neu unig fasnachwyr diwyd hynny nad ydynt eisiau peryglu eu hunain. Yr hyn sy’n holl bwysig yw bod yr ymgyrch yn gwneud hyn mewn ffordd syml, hygyrch a gobeithiwn y bydd busnesau yn canfod bod ein hadnoddau yn ddefnyddiol wrth iddynt wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd am eu gwastraff.”

Yn ôl Marie Fallon, Pennaeth Diwydiant Rheoleiddiedig yn Asiantaeth yr Amgylchedd:

"Mae cynorthwyo busnesau i ddeall a chydymffurfio â’u Dyletswydd Gofal yn rhan greiddiol o atal gwastraff rhag cyrraedd dwylo gweithredwyr gwastraff anghyfreithlon. Os bydd mwy o fusnesau’n gwybod beth i’w wneud â’u gwastraff, bydd llai ohono’n cael ei reoli’n anghyfreithlon, bydd llai’n cael ei waredu’n beryglus, a gellir arbed arian cyhoeddus.

"Mae’n galonogol fod yr ymchwil hon yn dangos bod busnesau eisiau gwneud y peth iawn, felly mae darparu gwybodaeth ac arweiniad iddynt drwy wefan ‘Gwastraff Iawn, Lle Iawn’ yn ffordd wych o’u cynorthwyo i gydymffurfio, a byddem yn annog busnesau i ymwneud â’r ymgyrch.

“Rydym yn atgoffa busnesau a chanddynt amheuon am weithgareddau rheoli gwastraff anghyfreithlon y gallant roi gwybod amdanynt yn ddienw i Crimestoppers ar y we ar www.crimestoppers-uk.org neu drwy ffonio 0800 555 111."

Gall busnesau ganfod cyflwyniadau syml, cardiau Angen Gwybod, astudiaethau achos a fideos ar y wefan hon.