Illegal tyre dump.JPG
Illegal tyre dump.JPG
Illegal tyre dump.JPG
Illegal tyre dump.JPG

CAMAU SYML


MAE EICH DYLETSWYDD GOFAL YN CYCHWYN O’R EILIAD Y BYDDWCH YN CYNHYRCHU’R GWASTRAFF 

SCROLL DOWN

CAMAU SYML


MAE EICH DYLETSWYDD GOFAL YN CYCHWYN O’R EILIAD Y BYDDWCH YN CYNHYRCHU’R GWASTRAFF 

Mae’r dudalen hon yn ganolbwynt ymarferol lle cewch gynghorion ac offer syml i’ch cynorthwyo i gydymffurfio â rheoliadau gwastraff. Dyma rai camau syml y gallwch eu cymryd: 

circle-set.jpg

1. Nodwch elfennau eich gwastraff a beth i’w wneud â hwy

Gallwch ddefnyddio’r Cardiau Angen Gwybod i’ch helpu i ganfod beth yw rhai o’r mathau gwastraff mwyaf cyffredin a beth i’w wneud â hwy. Efallai fod rhai o’r categorïau yn edrych yr un fath i gyd, ond mae’n bosibl iawn bod angen defnyddio dulliau gwahanol i’w gwaredu yn y ffordd gywir. Mae bylbiau golau yn enghraifft dda o hyn gan fod rhai mathau ohonynt yn cael eu diffinio fel gwastraff peryglus ac eraill ddim.

Rhan o’ch dyletswydd gofal yw gwybod y gwahaniaeth! 

2. Ystyriwch pa wastraff y gellir ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio

Yn ddelfrydol dylech geisio ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint â phosibl o’r gwastraff yr ydych yn ei gynhyrchu. Gall ein poster Canllawiau Defnyddio Sgipiau roi cynghorion chwim i chi ar ddefnyddio sgipiau. 

3. Rhannwch eich gwastraff i’r categorïau canlynol a’i storio yn unol â hynny: ailgylchu, ddim yn beryglus, a pheryglus.

Yn unol â’r Ddyletswydd Gofal mae angen ichi gadw’r gwastraff yr ydych yn ei gynhyrchu wedi’i rannu’n ddiogel yn gategorïau. Bydd gwahanu eich gwastraff yn gategorïau a’u labelu’n gywir yn gymorth i’ch cludwr fod yn hyderus fod ganddo’r gwastraff cywir. 

4. Cadwch eich gwastraff yn ddiogel

Bydd hyn yn gymorth i gadw eich gwastraff rhag cael ei lygru a bydd yn eich atal rhag colli rheolaeth arno. Os collwch reolaeth ar wastraff byddwch yn torri eich Dyletswydd Gofal a gallech wynebu dirwy. 


Illegal tyre dump.JPG

Cwestiynau Cyffredin


MAE EICH DYLETSWYDD GOFAL YN CYCHWYN O'R FUNUD Y BYDDWCH YN CYNHYRCHU’R GWASTRAFF

Cwestiynau Cyffredin


MAE EICH DYLETSWYDD GOFAL YN CYCHWYN O'R FUNUD Y BYDDWCH YN CYNHYRCHU’R GWASTRAFF

Cwestiynau Cyffredin

 

Beth yw’r Ddyletswydd Gofal?

Yn ôl y gyfraith, ers 1990*, mae’n ddyletswydd wrth wneud "unrhyw weithgarwch masnachol” – boed o gartref neu o leoliad ar wahân – i reoli'r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y broses.

*1997 yng Ngogledd Iwerddon


Pam gyflwynwyd y Ddyletswydd Gofal?

Os na chaiff gwastraff ei reoli'n iawn, gall fygwth yr amgylchedd ac iechyd pobl. Mae gwastraff hefyd yn adnodd gwerthfawr sy’n aml yn gallu cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu. Mae’r Ddyletswydd Gofal yn sicrhau bod pobl yn trin gwastraff mewn ffordd gyfrifol


Beth yw gwastraff?

Unrhyw ddeunydd neu eitemau na fyddwch chi, neu’ch busnes, am eu defnyddio eto ac yn dymuno’u symud ymaith.  Efallai y bydd modd trwsio neu ddefnyddio’r eitemau eto, ond rydych chi am gael gwared arnyn nhw. 

Gall deunyddiau o’r fath gynnwys y canlynol:

  • Gwastraff cegin/bwyd – fel caniau, cartonau a bwyd

  • Gwastraff cyfrifiadurol – fel sgriniau cyfrifiadur a nwyddau trydanol eraill

  • Gwastraff peryglus – fel batris ac asid   

  • Gwastraff adeiladu – fel pren a phlastrfwrdd

  • Gwastraff swyddfa – fel papur a hen arlliw-wyr a chetris peiriannau argraffu

  • Gwastraff cynhyrchu – deunyddiau crai anghywir, metalau sgrap, deunydd pacio


I bwy mae’r Ddyletswydd Gofal yn berthnasol?

Mae’n berthnasol i bawb sy’n rhan o siwrne’r gwastraff.

  • Cynhyrchwr y gwastraff – sef y person neu’r cwmni sydd wedi cynhyrchu’r gwastraff
  • Cludwr y gwastraff – sef y cwmni sy’n casglu’r gwastraff
  • Rheolwr y gwastraff – sef y cwmni sy’n rheoli’r gwastraff

Pryd mae’r Ddyletswydd Gofal yn berthnasol?

Mae eich dyletswydd gofal yn cychwyn o’r funud y byddwch yn cynhyrchu’r gwastraff tan y byddwch yn ei roi i fusnes gwastraff trwyddedig i'w drin. Gall hwn fod yn gludwr cofrestredig neu’n safle gwastraff sydd â thrwydded ddilys. Rydych chi’n dal yn gyfrifol am ofalu bod y busnes yn delio â’ch gwastraff ac os byddwch chi’n amau nad yw eich cludwr gwastraff yn cyflawni’r Ddyletswydd Gofal, dylech ffonio llinell frys rheoleiddwyr yr amgylchedd ar 0800 80 70 60 (gwasanaeth 24 awr).*

*Mae’r rhif hwn ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.  Yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 028 9056 9453.


A yw’r Ddyletswydd Gofal yn berthnasol drwy’r DU?

Ydy, mae’r Ddyletswydd Gofal yn berthnasol drwy’r DU. Mae'n berthnasol felly drwy gydol siwrne’r gwastraff hyd yn oed os bydd hwnnw’n croesi ffiniau, wrth symud o Gymru i Loegr neu o Loegr i’r Alban, er enghraifft. Mae gofynion ‘cofrestru’ cludwyr gwastraff yn berthnasol drwy’r DU i gyd, felly mae cludwr cofrestredig yn Lloegr hefyd wedi’i gofrestru i gludo gwastraff yng Nghymru neu yn yr Alban, er enghraifft. Mae’r trwyddedau’n wahanol fodd bynnag, yn enwedig rhwng Cymru/Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.


Beth ddylwn i ei wneud os yw’n bosibl bod fy ngwastraff yn beryglus?

Dylech benderfynu a yw’r gwastraff yn beryglus ai peidio. Mae sawl ffordd o ganfod hyn:

  • A oes disgrifiad neu symbol ar y nwyddau?    
  • Gofynnwch i gyflenwr y nwyddau                                             
  • Edrychwch ar y canllawiau ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Os yw’ch gwastraff yn beryglus yna mae angen i gwmni gwastraff arbenigol ei drin.

Efallai hefyd y bydd angen ichi gofrestru eich lleoliad os ydych chi’n cynhyrchu neu’n storio gwastraff peryglus. Os ydych chi’n cynhyrchu neu’n storio gwastraff peryglus yng Nghymru yna bydd angen ichi hefyd gofrestru eich lleoliad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os nad yw’ch gwastraff yn beryglus, mae sawl opsiwn i'w hystyried cyn ichi gael gwared ar y gwastraff hwnnw:

  • Oes modd i rywun arall ailddefnyddio neu adnewyddu’r eitemau?       

A all rhywun arall yn eich sefydliad neu rywle arall ddefnyddio’r eitemau at ddiben tebyg?   A allech chi werthu/rhoi/cyfnewid eitemau nad ydych chi mo’u hangen? 

  • Oes modd eu hatgyweirio?

A allech chi adnewyddu neu atgyweirio rhai o'r eitemau yn lle prynu rhai newydd?  Chwiliwch ar y rhyngrwyd am wasanaethau atgyweirio lleol neu cysylltwch â'ch cyngor lleol.

  • Oes modd eu hailgylchu?

Os bydd hynny’n bosibl, cadwch fathau gwahanol o wastraff ar wahân i’w gilydd, yn enwedig gwastraff y gellir ei ailgylchu fel gwydr, papur, metelau neu blastig.  Peidiwch byth â chymysgu gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, gan y bydd hyn yn golygu bod yr holl wastraff yn beryglus wedyn.

A yw’r eitem yn rhan o wasanaeth ailgylchu arferol y sawl sy’n rhoi gwasanaeth gwastraff ichi?   Os nad yw, cysylltwch â nhw i ganfod eich opsiynau.

Dolenni defnyddiol:

www.gov.uk

www.wastehierarchy.wrap.org.uk  

www.gov.scot 

www.daera-ni.gov.uk/articles/wastehierarchy


Beth os nad oes modd ailddefnyddio neu ailgylchu eitem?

Cysylltwch â chwmni rheoli gwastraff sydd ag enw da i drafod sut i drin a chael gwared ar yr eitem.


Sut ddylwn i storio’r gwastraff cyn iddo gael ei gasglu?

  • Gofalwch ei fod wedi’i storio’n gywir fel na all dim byd ddianc fel sbwriel, hylif neu aroglau

  • Rhwystrwch bobl rhag cael mynediad iddo, er enghraifft drwy ei gloi mewn bin

  • Cadwch fathau gwahanol o wastraff ar wahân i'w gilydd os bydd hynny'n bosibl, yn enwedig gwastraff y gellir ei ailgylchu fel gwydr, papur, metalau a phlastig

  • Bydd angen storio rhai mathau o wastraff, fel hylif a gwastraff peryglus, mewn cynwysyddion arbennig

 


Pa fathau o wastraff y mae angen eu cadw ar wahân?

  • Gwastraff hylendid neu ofal iechyd – fel gwastraff glanweithiol, cewynnau a gwastraff cymorth cyntaf

  • Gwastraff sych i’w ailgylchu – fel gwydr, papur metalau a phlastig. Dylid rhoi’r rhain mewn cynwysyddion ar wahân os bydd hynny'n bosibl

  • Gwastraff cyfrinachol – i’w gadw mewn cynwysyddion diogel a’i waredu mewn ffordd sy’n briodol (er enghraifft, mewn peiriant rhwygo)

  • Gwastraff offer trydanol – fel ffonau, cyfrifiaduron, setiau teledu, systemau sain, teganau trydanol plant.  Gallai rhai o’r rhain fod yn wastraff peryglus.

  • Batris – gan gynnwys batris symudol, batris nad ydynt yn symudol, a batris y diwydiant adeiladu (lithiwm ac ati).  Mae llawer o’r rhain yn wastraff peryglus.


Lle mae dod o hyd i gwmni i gael gwared ar fy ngwastraff?

Chwiliwch am gontractwyr gwastraff yn eich ardal ar y rhyngrwyd neu mewn llyfrau ffôn.

Gofalwch fod trwydded gan unrhyw fusnes y byddwch yn ei ddefnyddio, a chadwch brawf o hyn - e.e. gwnewch gopi o'u trwydded. 


 

Pa wiriadau ddylwn i eu gwneud wrth edrych ar y cwmni sy’n casglu fy ngwastraff?

  • Gofalwch fod y cwmni wedi’i gofrestru fel ‘cludwr gwastraff’ drwy fynd i un o’r cofrestri ar-lein hyn: Cymru, Lloegryr Alban a Gogledd Iwerddon.

  • Gofynnwch i gael gweld copi o’u tystysgrif cofrestru a chadwch brawf o hyn

  • Gofynnwch am dderbynneb

  • Gofynnwch i ble y byddan nhw’n mynd â’ch gwastraff

  • Gwnewch nodyn o’u henw a’u rhif cofrestru

  • Byddwch yn ofalus os bydd y pris yn swnio’n rhy dda

  • Rhowch wybod i reoleiddwyr yr amgylchedd neu i’ch awdurdod lleol am gwmnïau sy'n ymddangos yn amheus

 


Beth os na fyddaf yn cydymffurfio?

Os na fyddwch chi’n cydymffurfio, fe fyddwch chi’n torri’r gyfraith ac fe allech wynebu dirwyon a chael eich erlyn. Gallai hyn effeithio arnoch chi os byddwch chi am wneud cais am gontractau penodol, a gallai achosi niwed i'ch enw da.


Beth yw’r manteision o gydymffurfio?

Mae’n hawdd cydymffurfio â’r Ddyletswydd Gofal a gall hyn arbed arian ichi. Bydd dilyn y camau syml hyn yn sicrhau eich bod chi'n cydymffurfio. Bydd hyn hefyd yn lleihau achosion o reoli gwastraff yn anghyfreithlon, sy'n costio £50 miliwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn.


Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf yn credu bod busnes gwastraff wedi trin fy ngwastraff yn iawn?

Os byddwch chi’n amau nad yw busnes gwastraff yn cyflawni’r Ddyletswydd Gofal, dylech ffonio llinell frys rheoleiddwyr yr amgylchedd ar 0800 80 70 60 (gwasanaeth 24 awr).*

*Mae’r rhif hwn ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.  Yng Ngogledd Iwerddon ffoniwch: 028 9056 9453.


Sut mae cael rhagor o wybodaeth?

Mae rhagor o wybodaeth ar gael fan hyn:

www.gov.uk/managing-your-waste-an-overview/duty-of-care
www.esauk.org
www.ciwm.co.uk


Illegal tyre dump.JPG

Cardiau Gwybodaeth


MAE EICH DYLETSWYDD GOFAL YN CYCHWYN O’R FUNUD Y BYDDWCH YN CYNHYRCHU’R GWASTRAFF

Cardiau Gwybodaeth


MAE EICH DYLETSWYDD GOFAL YN CYCHWYN O’R FUNUD Y BYDDWCH YN CYNHYRCHU’R GWASTRAFF