Crëwyd yr ymgyrch wybodaeth Gwastraff Iawn, Lle Iawn gan grŵp o noddwyr er mwyn cynorthwyo busnesau bach a sefydliadau i gyflawni eu rhwymedigaethau Dyletswydd Gofal mewn ffordd mor ymarferol â phosibl.
Mae’r ymgyrch yn cael ei rheoli gan y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol (ESA) a’i noddi gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff ac Ymddiriedolaeth Addysg y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol.
Cefnogir gan: SUEZ , Ffederasiwn Busnesau Bach, Veolia, Travis Perkins, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Build UK, URoC, a LARAC.
Rydym yn croesawu unrhyw safbwyntiau a sylwadau o ran gwneud yr ymgyrch hon yn un mor effeithiol â phosibl. Cysylltwch â ni heddiw drwy ddefnyddio’r dulliau cyswllt isod.