Ymchwil newydd yn dangos nad yw bron i hanner y cwmnïau adeiladu a holwyd yn gwybod i ble mae eu holl wastraff yn mynd

Lansiwyd ymgyrch Gwastraff Iawn, Lle Iawn ar gyfer y sector adeiladu yn RWM ar 13 Medi am 13.00 o’r gloch yn theatr yr awdurdod lleol er mwyn helpu busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau ac i godi ymwybyddiaeth.

Mae llawer o fusnesau adeiladu ledled y DU yn cael trafferth gwneud y peth iawn â’u gwastraff, gyda bron eu hanner yn cyfaddef i arferion sy’n golygu nad ydynt yn cydymffurfio’n llawn â’r ddeddfwriaeth. Dengys arolwg newydd, er bod 98% o gwmnïau adeiladu yn meddwl eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau dan ddeddfwriaeth ‘Dyletswydd Gofal’ gwastraff, bod llawer ohonynt yn eu hamlygu eu hunain i ddirwyon diderfyn, cael eu herlyn a chael eu cau, o bosibl, yn sgil eu diffyg ymwybyddiaeth.

Canfu’r arolwg cenedlaethol gan Gwastraff Iawn, Lle Iawn – a ganolbwyntiodd yn bennaf ar fusnesau bach a chanolig eu maint – nad oedd 46% o fusnesau adeiladu bach a chanolig yn gwybod i ble mae’r oll o’u gwastraff yn mynd wrth iddo adael y safle. Roedd dros draean ohonynt yn cyfaddef hefyd nad oeddent yn sicr a oeddent yn cwblhau nac yn cadw Nodiadau Trosglwyddo Gwastraff hanfodol – sy’n ofyniad allweddol. At hynny, nid oedd llawer ohonynt yn sicr sut i ddosbarthu’r holl ddeunyddiau gwastraff yr oeddent yn eu trin yn gywir.

Drwy beidio â chydymffurfio, mae busnesau adeiladu yn creu’r perygl y bydd gwastraff yn disgyn i ddwylo troseddwyr, gan arwain at beryglon amgylcheddol, iechyd a diogelwch yn sgil tipio a gollwng anghyfreithlon.

I ymateb i hyn, lansiwyd ymgyrch Gwastraff Iawn, Lle Iawn ar gyfer y sector adeiladu yn RWM ar 13 Medi am 13.00 o’r gloch yn theatr yr awdurdod lleol er mwyn helpu busnesau adeiladu i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Canolbwynt yr ymgyrch yw gwefan ryngweithiol www[NP3] [NP4] .rightwasterightplace.com ac mae’r ymgyrch, sy’n cael ei rhedeg gan y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol, yn cael ei chefnogi gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff ac Ymddiriedolaeth Addysg y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i reoli gwastraff yn ddiogel ac yn effeithlon. Bydd yr ymgyrch, sy’n canolbwyntio ar y sector adeiladu, yn cynnwys Cyflwyniad Syml i’r Ddyletswydd Gofal i gwmnïau adeiladu, cardiau angen gwybod ac astudiaethau achos sy’n tynnu sylw at ofynion y Ddyletswydd Gofal a nifer o seminarau hyfforddiant i fusnesau adeiladu yn benodol.

Meddai Sam Corp, Pennaeth Rheoleiddio y Gymdeithas Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Mae’r canlyniadau yma yn brawf o’r hyn yr oeddem yn ei amau, sef bod busnesau adeiladu bach eisiau gwneud y peth iawn ond nad yw llawer ohonynt, yn y pen draw, yn cydymffurfio â’r gyfraith. Dywedodd bron eu hanner wrthym nad ydynt yn sicr ble mae’r gwastraff yn mynd pan fydd yn eu gadael. Pan fyddwch yn brysur, gall ymdrin â’ch gwastraff fod yn isel ar y rhestr o flaenoriaethau, ond mae angen i bobl fusnes sylweddoli eu bod mewn perygl o gael cosbau sylweddol os nad ydynt yn cydymffurfio.

“Nid yw troseddau gwastraff heb eu dioddefwyr. Mae ymdrin â’r canlyniadau yn costio miliynau o bunnoedd i drethdalwyr bob blwyddyn a gall troseddwyr gwastraff niweidio’r amgylchedd a pheryglu cymunedau lleol. Drwy beidio â chydymffurfio, gallai busnesau lleol fod yn hwyluso troseddau o’r fath drwy beidio â sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu’n ddiogel.

“Mae ymgyrch ‘Gwastraff Iawn, Lle Iawn’ yma i helpu. Mae perchnogion busnesau bach yn aml yn gweithio i’r eithaf, yn gwneud sawl gorchwyl wahanol ar yr un pryd a dan bwysau. Mae ein hymgyrch yn darparu deunyddiau gwerthfawr, hawdd i’w deall a fydd yn eu cynorthwyo i gyflwyno arferion da i’w diogelu rhag torri’r gyfraith.”

Meddai Alan Holmes, Uwch Gynghorydd Gwastraff yn Asiantaeth yr Amgylchedd:  

“Bu i ymchwil a wnaed gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn ôl yn 2012 ddangos bod 28% o safleoedd gwastraff anghyfreithlon yn y DU yn cynnwys gwastraff adeiladu a dymchwel. Mae’r ymchwil ddiweddaraf a gafodd ei chynnal ar ran ymgyrch ‘Gwastraff Iawn, Lle Iawn’ yn cadarnhau’r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl, sef nad yw llawer o fusnesau adeiladu bach yn ymwybodol eu bod yn gweithredu’n anghyfreithlon. Rydym felly’n cefnogi lansio ymgyrch ar gyfer y sector adeiladu er mwyn cynorthwyo busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau ac i godi ymwybyddiaeth.”

Yn ôl Julia Barrett, un o Gyfarwyddwyr Re-Thinking Limited, sy’n rhan o Willmott Dixon:

“Mae faint o wastraff yr ydym yn ei gynhyrchu yn Willmott Dixon yn uniongyrchol gysylltiedig â nifer y safleoedd adeiladu sydd gennym. Drwy gydweithio’n agos â phartneriaid allweddol yn y gadwyn gyflenwi rydym wedi cynyddu cyfraddau dargyfeirio ein gwastraff dymchwel, cloddio ac adeiladu o safleoedd tirlenwi i 98%. Y gwastraff rhataf i ymdrin ag ef yw’r gwastraff nad ydym yn ei greu ac felly rydym wedi gosod targed yn awr i leihau ein gwastraff adeiladu 60% erbyn 2020.

“Rydym yn falch o fod yn llysgennad ymgyrch i ymgyrch ‘Gwastraff Iawn, Lle Iawn’ a byddem yn annog llawer mwy o gwmnïau adeiladu a phartneriaid cadwyn gyflenwi i ymuno â’r rhaglen.”

Mae ymgyrch genedlaethol ‘Gwastraff Iawn, Lle Iawn’ eisoes wedi denu cefnogaeth casgliad o ‘lysgenhadon’ swyddogol ar draws amrywiol sectorau, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau megis Ffederasiwn Busnesau Bach, cwmnïau rheoli gwastraff, adeiladwyr tai, cwmnïau adeiladu, ac elusennau gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae ymchwil ddiweddaraf yr ymgyrch yn seiliedig ar arolwg o dros 1,000 o fusnesau ledled y DU. Er ei bod yn tynnu sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth ynghylch deddfwriaeth gwastraff ‘Dyletswydd Gofal’, roedd hefyd yn dangos bod llawer o fusnesau wedi cael eu hysgogi a’u bod yn cymryd camau ar hyn o bryd i wneud y peth iawn.

Yn genedlaethol, ystyriaethau amgylcheddol ac iechyd oedd y prif ysgogwyr i fusnesau gydymffurfio, a gofynion cyfreithiol yn eu dilyn yn agos. Dywedodd cyfanswm o 89% hefyd eu bod yn cymryd camau i storio eu gwastraff yn ddiogel, tra bod 83% yn gwneud rhywfaint o ymdrech i wahanu’r gwahanol fathau o wastraff sy’n cael ei greu cyn ei waredu neu ei ailgylchu.

Gall rhoi’r gwastraff anghywir yn y man anghywir achosi problemau o ran llygru deunydd sydd i fod i fynd i’w ailgylchu, gan gostio arian i fusnesau o bosibl.

Meddai Steve Lee, prif weithredwr y Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff:

“Roeddem yn falch o weld bod mwyafrif y busnesau y bu inni siarad â hwy yn llawn ysgogiad i wneud y peth iawn a bod ganddynt arferion ar waith i rannu’r gwahanol fathau o wastraff megis gwastraff electronig, gwastraff peryglus, plastig a metel.  

“Disgwylir i berchnogion busnesau bach a chanolig fod yn arbenigwyr ar bopeth – ac nid yw cyfraith gwastraff yn eithriad. Mae ein hymgyrch yn cynnig help llaw i’r holl berchnogion cwmnïau neu unig fasnachwyr diwyd hynny nad ydynt eisiau peryglu eu hunain. Yr hyn sy’n  holl bwysig yw bod yr ymgyrch yn gwneud hyn mewn ffordd syml, hygyrch a gobeithiwn y bydd busnesau yn canfod bod ein hadnoddau yn ddefnyddiol wrth iddynt wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd am eu gwastraff.”

Gall busnesau lleol ganfod cyflwyniadau syml, cardiau Angen Gwybod, astudiaethau achos a fideos ar-lein ar www.rightwasterightplace.com neu drwy ebostio info@rightwasterightplace.com.