Mae nifer o fusnesau bach yn credu mai rhagor o fiwrocratiaeth yw rheoleiddio gwastraff. Ond fe all yr hyn y byddwch chi'n ei wneud gael effeithiau difrifol nid yn unig ar eich busnes ond ar y gymuned ehangach hefyd.
Gall peidio â delio â’ch gwastraff busnes yn iawn arwain at anafiadau, at fwy o dipio anghyfreithlon ac at beryglu eich bywoliaeth. Yn fan hyn, fe allwch ddysgu o enghreifftiau eraill. Cliciwch ar yr astudiaethau achos isod i weld sut y gall eich Dyletswydd Gofal effeithio ar eich busnes chi. Mae’r achosion yn dangos y camau gwag i’w hosgoi ac yn rhoi enghreifftiau o arferion da.