MAE CYFRIFOLDEB AR BOB SEFYDLIAD NEU FUSNES SY’N CYNHYRCHU GWASTRAFF LEDLED Y DEYRNAS UNEDIG I REOLI’R GWASTRAFF HWNNW’N IAWN. BYDD Y WEFAN HON YN GYMORTH ICHI GYDYMFFURFIO Â’R GYFRAITH.
MAE CYFRIFOLDEB AR BOB SEFYDLIAD NEU FUSNES SY’N CYNHYRCHU GWASTRAFF LEDLED Y DEYRNAS UNEDIG I REOLI’R GWASTRAFF HWNNW’N IAWN. BYDD Y WEFAN HON YN GYMORTH ICHI GYDYMFFURFIO Â’R GYFRAITH.
Dylech roi sylw i hyn. Mae’r rheoliadau amgylcheddol yn datgan bod pob sefydliad neu fusnes sy’n cynhyrchu gwastraff, ble bynnag y mae wedi’i leoli, yn gyfrifol am reoli’r gwastraff hwnnw’n iawn.
Hynny yw, chi!
Os nad ydych yn gwneud hynny, am ba reswm bynnag, mae perygl y bydd eich sefydliad neu fusnes yn cael ei erlyn, a gallech orfod talu dirwy os cewch eich canfod yn euog yn y llys. [2]
GALLWN EICH CYNORTHWYO I ROI’R GWASTRAFF IAWN YN Y LLE IAWN
GALLWN EICH CYNORTHWYO I ROI’R GWASTRAFF IAWN YN Y LLE IAWN
Y prif reswm am hyn yw oherwydd nad ydynt yn gwybod beth mae angen i’w sefydliad neu eu busnes ei wneud er mwyn cydymffurfio’n llawn â’i rwymedigaethau dyletswydd gofal.
Os yw hynny’n wir amdanoch chi, bydd y wefan hon yn gymorth ichi ddeall mwy am eich rhwymedigaethau Dyletswydd Gofal. Bydd, yn llythrennol felly, yn eich cynorthwyo i roi’r gwastraff iawn yn y lle iawn, fel y gallwch sicrhau eich bod yn cydymffurfio, a hynny â chyn lleied o ffwdan â phosibl. Nod y wybodaeth ar y wefan hon yw bod yn ymarferol ac yn ddefnyddiol; er enghraifft, rydym wedi cynnwys cardiau Angen Gwybod syml am eitemau cyffredin sy’n cael eu gwaredu fel gwastraff, gan roi cyngor chwim ar sut i gael gwared arnynt.
DEWCH I WELD YDYCH CHI EISOES YN RHEOLI EICH GWASTRAFF MEWN FFORDD SY’N CYDYMFFURFIO Â’R DDEDDFWRIAETH AC, OS NAD YDYCH, PA NEWIDIADAU Y MAE ANGEN I CHI EU GWNEUD
DEWCH I WELD YDYCH CHI EISOES YN RHEOLI EICH GWASTRAFF MEWN FFORDD SY’N CYDYMFFURFIO Â’R DDEDDFWRIAETH AC, OS NAD YDYCH, PA NEWIDIADAU Y MAE ANGEN I CHI EU GWNEUD
Ar y wefan hon fe gewch hefyd fideos perthnasol, astudiaethau achos, cyflwyniad syml ar sut i gydymffurfio, cwestiynau ac atebion manwl a llawer o ddolenni defnyddiol er mwyn ateb cwestiynau mwy penodol neu fanwl.
Ac os na allwn eich cynorthwyo, fe’ch rhoddwn mewn cysylltiad â rhywun all wneud hynny.
[1] Yng Ngogledd Iwerddon: Waste and Contaminated Land (Northern Ireland) Order 1997
[2] Mae dirwyon diderfyn ar gael i lysoedd ynadon a llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban ac Iwerddon, uchafswm y dirwyon statudol mewn llysoedd ynadon yw £5,000.
[3] Ffynhonnell: Suez.